Mae haeddiant dwyfol waed

(Llais y Dwyfol waed)
  Mae haeddiant dwyfol waed,
    Yn drymach yn y nef,
  Nâ'r pechod mwyaf gaed,
    A'i holl euogrwydd ef;
Gwrandewir llais y dwyfol glwy',
O flaen eu damniol floeddiad hwy.

  Gelynion creulawn lu,
    A gawsant farwol glwy',
  Ar fynydd Calfari,
    Paham yr ofnaf mwy?
Mae llais y gwaed
      yn uwch ei gri,
Nâ'm beiau oll,
      er maint eu rhi'.

           - - - - -

  Mae haeddiant dwyfol waed
    Yn drymach yn y nef,
  Na'r pechod mwyaf gaed,
    A'i holl euogrwydd ef;
Gwrandewir llais y dwyfol glwy',
O flaen eu huched floeddiad hwy.

  Am hyny tyr'd yn mlaen, -
    Nac ofn, f'enaid, mwy;
  Er haeddu uffern dân,
    Cai hedd trwy
         farwol glwy':
Telynau aur sy'n canu'n un
Am fuddugoliaeth Mab y dyn.
William Williams 1717-91

Tôn [666688]: Haddam (Lowell Mason 1792-1872)

gwelir: Disgleiria foreu wawr

(The voice of the Divine blood)
  The merit of the divine blood is
    Weightier in heaven,
  Than the greatest sin there is,
    And all its guilt;
The voice of the divine wound is heard,
Before their condemnatory shout.

  A host of cruel enemies,
    Got a mortal wound,
  On the mount of Calvary,
    Why shall I fear any more?
The voice of the blood
      is louder than their cry,
Than all my faults,
      despite how great their number.

              - - - - -

  The merit of divine blood is
    Weightier in heaven,
  Than te greatest sin there is,
    And all its guilt;
The voice of the divine wound is heard,
Before their so loud shouting.

  Therefore come on, -
    Fear not, my soul, anymore;
  Despite deserving hell fire,
    Thou shalt get peace through
          a mortal wound:
Golden harps are singing as one
About the victory of the Son of man.
tr. 2020,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~